Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau bregus

Cynlluniwyd ein gwasanaethau ysbyty fwy na 50 mlynedd yn ôl. Ers hynny, mae gofal yn fwy effeithlon, mae wedi symud tuag at ofal yn y gymuned ac atal afiechyd, ac mae’n llai dibynnol ar welyau ysbyty. Mae gennym bedwar prif ysbyty (aciwt) maint bach i ganolig, pob un â’i wasanaethau meddygol a llawfeddygol ei hun, a thair Uned Frys, yn ogystal ag Uned Mân Anafiadau brysur 24/7 ynYsbyty Tywysog Philip. Nid oes gan unrhyw ran arall o Gymru nifer uwch o brif safleoedd fesul poblogaeth.Yn nodweddiadol, byddai ardal gyda phoblogaeth o lai na 400,000 yn cael ei gwasanaethu gan un i ddwy uned frys a safleoedd meddygol. Canlyniad hyn yw dyblygu, gweithlu sydd dan bwysau, amrywiaeth o ran diogelwch, ansawdd gofal a sut y caiff ei ddarparu, a gwasanaethau bregus. Drwy leihau’r dyblygu, efallai y bydd modd datblygu a darparu rhai gwasanaethau arbenigol ychwanegol yn ardal Hywel Dda yn hytrach na’r tu allan i’r ardal.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: