Neidio i'r prif gynnwy

Digidol

Ar hyn o bryd nid ydym yn defnyddio cyfleoedd digidol yn llawn i ddiwallu anghenion ein poblogaeth yn y ffordd orau, yn enwedig ar gyfer y rhai y mae’n rhaid iddynt deithio i gael mynediad at wasanaethau. Rydym yn defnyddio technoleg, er enghraifft gallwch weithiau gael apwyntiad gyda’ch ymgynghorydd, nyrs neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall trwy ddefnyddio cyfrifiadur neu ffôn clyfar yn eich cartref eich hun, neu fynychu cyfleuster gofal iechyd lleol yn hytrach nag ysbyty mawr ymhellach i ffwrdd. Rydym hefyd yn defnyddio dyfeisiau arwahanol y gallwch eu defnyddio gartref i’ch helpu i fod yn ymwybodol o’ch cyflwr, neu i dynnu sylw gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gysylltiedig â’r ddyfais pan nad yw rhywbeth yn iawn. Fodd bynnag, nid yw ein defnydd o dechnolegau digidol yn gyson nac yn eang. Mae angen inni ddefnyddio’r datblygiadau technolegol diweddaraf mewn cyfleusterau modern i greu system iechyd heb rwystrau. Bydd hyn yn eich helpu yn uniongyrchol ond hefyd yn ein helpu i ddenu’r gweithlu gorau.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: