Neidio i'r prif gynnwy

Ym mha ffyrdd y mae'r safleoedd yn debyg

Mae’r tri safle yn debyg mewn sawl ffordd:
• Maent i gyd yn ddigon mawr ar gyfer yr ysbyty newydd ac maent i gyd ar dir amaethyddol.
• Maent i gyd yn cael eu hystyried yn dir glas, sy’n golygu nad ydynt wedi’u datblygu a bod gwerthusiad wedi canfod eu bod i gyd yn addas i’w datblygu.
• Bydd yn rhaid dilyn prosesau cynllunio tref manwl ar gyfer unrhyw safle a ddewisir, ond nid yw adborth hyd yma wedi nodi unrhyw faterion cynllunio arwyddocaol.
• Maent i gyd yn agos at drefi bach gyda darpariaethau lleol tebyg megis siopau, ysgolion, tai ac ati.
• Byddai’r trefi a’r ardaloedd lleol yn gweld budd economaidd o gael ysbyty cyfagos, ond ni lwyddwyd i benderfynu a fyddai hyn yn wahanol fesul safle o ystyried pa mor agos ydynt.
• Maent i gyd o fewn y parth gwreiddiol ar gyfer yr ysbyty newydd, rhwng ac yn cynnwys Arberth a Sanclêr.
• Cydnabyddir bod llif traffig i ysbytai yn ein cymunedau yn drymach yn ystod misoedd yr haf. Oherwydd pa mor agos yw’r safleoedd i’w gilydd, mae hyn yn ystyriaeth gyffredin ar gyfer ein holl safleoedd.
• Gwasanaethir Hendy-gwyn ar Daf a Sanclêr (ac felly’r tri safle) gan lwybrau bysiau sy’n cysylltu Hwlffordd a Chaerfyrddin. Byddai angen mwy o wasanaethau bws ar bob safle i gysylltu cymunedau. Byddai angen gwasanaethau amlach, yn rhedeg dros gyfnodau hwy o’r dydd, i weddu i anghenion gweithwyr sifft ac ymwelwyr.
• Mae nwy, trydan a dwˆ r ar gael i bob un o’r safleoedd, ond byddai angen uwchraddio sylweddol.
• Byddai angen gwella ffyrdd lleol a rheoli traffig ar bob safle hefyd, ond mae gan bob un ohonynt botensial ar gyfer mwy nag un mynediad.
• Amcangyfrifir y bydd y gost o adeiladu’r ysbyty newydd yr un fath ar bob safle (amcangyfrif £736.9m) ond mae rhai costau ychwanegol i sicrhau neu addasu pob safle. Gallwch hefyd weld mwy o fanylion am hyn drwy fynd i’n gwefan biphdd.gig.cymru/safle-ysbytynewydd i’r adran Dogfennau Technegol (agor mewn dolen newydd), enw’r adroddiad yw Crynodeb Cost Safle.
• Ar gyfer pob safle gallem ddylunio’r adeiladau i wneud y gorau o'r heulwen haul a’r amgylchedd naturiol, nid yn unig yn y mannau awyr agored ond o fewn yr adeiladau eu hunain (dyluniad bioffilig, a drafodir ymhellach  i’r adran Dogfennau Technegol (agor mewn dolen newydd)).
• Mae dyhead i bob safle gael ei gefnogi gan ‘greu lleoedd’, sef proses o greu lleoedd o safon y mae pobl eisiau byw, gweithio, chwarae a dysgu ynddynt.
• Nid yw’r safleoedd o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig ac nid oes angen gwaith ychwanegol arnynt o ran atal llygredd ffosffad.
• Ni ddangosodd adolygiad hanesyddol nac adolygiad bwrdd gwaith o’r holl safleoedd unrhyw ffynonellau halogi sylweddol.
• Ni ellir diystyru effeithiau amgylcheddol posibl ar unrhyw un o’r safleoedd ar hyn o bryd ac felly mae’n debygol y byddai angen Asesiad Effaith Amgylcheddol statudol ar bob un ohonynt i gefnogi cais cynllunio.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: