Neidio i'r prif gynnwy

Opsiynau safle yr ydym yn ymgynghori arnynt

Mae chwyddwydr yn dangos lleoliadau newydd posib ysbyty newydd Cytunodd ein Bwrdd yn unfrydol bod angen ymgynghoriad cyhoeddus pellach ar dri safle posibl ar gyfer Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd. Yn yr adran hon, rydym yn nodi rhai o nodweddion y tri safle posibl, gan gynnwys beth sydd yr un fath neu’n debyg, a’r gwahaniaethau. Rydym hefyd yn cynnwys rhai o’r safbwyntiau gan grwpiau sydd wedi ystyried yr effeithiau ar leoliad yr ysbyty newydd o fewn y parth y cytunwyd arno.

Mae’r tri safle posibl o fewn ardal ddaearyddol fach yn ne ardal Hywel Dda, yn Sir Gaerfyrddin ac yn agos at ffin Sir Benfro. Mae dau ger tref Hendy-gwyn ar Daf ac un ger Sanclêr.

Hendy-gwyn ar Daf, Gerddi’r Ffynnon (safle 12 gynt) Mae’r safle hwn ychydig i’r gogledd-ddwyrain o ganol Hendy-gwyn ar Daf. Mae rhwng yr A40 i’r gogledd, cae rygbi Hendy-gwyn ar Daf i’r dwyrain a chartrefi Gerddi’r Ffynnon i’r de.


• Hendy-gwyn ar Daf, Tŷ Newydd (safle C gynt) Mae’r safle hwn yn rhan o Fferm Tŷ Newydd. Mae’r safle i’r dwyrain o hen hufenfa Hendy-gwyn ar Daf. Mae canol y dref a ffordd yr A40 lai na milltir i’r gogledd o’r safle.


• Sanclêr (safle 17 gynt) Mae’r safle hwn yn dir ar hen gaeau Bryncaerau, ger cyffordd yr A40 a’r A477 yn Sanclêr. Mae’r A4066 Ffordd Dinbych-y-pysgod i’r de, pentref Pwll Trap i’r gogledd, a’r A40 i’r gorllewin.

 

Llun o fap safle Gerddi Ffynnon Hendy-gwyn ar Daf Hendy-gwyn ar Daf, Gerddi’r Ffynnon (safle 12 gynt) Mae’r safle hwn ychydig i’r gogledd-ddwyrain o ganol Hendy-gwyn ar Daf. Mae rhwng yr A40 i’r gogledd, cae rygbi Hendy-gwyn ar Daf i’r dwyrain a chartrefi Gerddi’r Ffynnon i’r de. 

Llun o fap safle Ty Newydd, Hendy-gwyn ar Daf
Hendy-gwyn ar Daf, Tŷ Newydd  (safle C gynt) Mae’r safle hwn yn rhan o FfermTyˆ
Newydd. Mae’r safle i’r dwyrain o hen hufenfa Hendy-gwyn ar Daf. Mae canol y dref a ffordd yr A40 lai na milltir i’r gogledd o’r safle. 

Llun o fap safle Sanclêr  Sanclêr (safle 17 gynt) Mae’r safle hwn yn dir ar hen gaeau Bryncaerau, ger cyffordd yr A40
a’r A477 yn Sanclêr. Mae’r A4066 Ffordd Dinbych-y-pysgod i’r de, pentref Pwll Trap i’r gogledd, a’r A40 i’r gorllewin.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: