Neidio i'r prif gynnwy

Deall y gwahaniaethau

Oherwydd y tebygrwydd rhwng y safleoedd, canfu grwpiau o bobl a oedd yn eu hystyried o safbwyntiau penodol (gweler y bennod gynharach ar ‘Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn’) fod y gwahaniaethau rhyngddynt yn aml yn rhy fach i gael effaith ar argymhellion safleoedd:
• Roedd grŵp yn edrych ar wybodaeth dechnegol am y safleoedd, eu nodweddion a’r hyn yr oedd ein cyhoedd yn ei feddwl oedd yn bethau pwysig i’w hystyried. Sgoriodd Gerddi’r Ffynnon, Hendy-gwyn ar Daf 373, sgoriodd Tŷ Newydd, Hendy-gwyn ar Daf 366 a sgoriodd Sanclêr 372.
• Yn yr un modd, nid oedd y sgoriau a roddwyd gan arbenigwyr technegol ar gyfer y risgiau sy’n gysylltiedig â gwahanol safleoedd yn sylweddol wahanol, gyda sgôr o 145 ar gyfer Gerddi’r Ffynnon Hendy-gwyn ar Daf, 145 ar gyfer Sanclêr, a 144 ar gyfer Tŷ Newydd, Hendy gwyn ar Daf.
• Ychydig o wahaniaeth a ganfu’r grŵp gweithlu rhwng y safleoedd o ran recriwtio ac effeithiau ar gynnal gweithlu.
• Canfu’r grŵp cyllid ac economaidd, tra bod gwahaniaethau mewn costau cyfalaf (a amlinellir yn y tabl isod), roedd llai na 2% o wahaniaeth yng nghostau amcangyfrifedig cyffredinol y datblygiad.


Trwy’r broses dewis tir ar gyfer ein Hysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd, fe wnaethom ymgysylltu â’n timau clinigol. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn yr Adroddiad Allbwn Arfarnu Tir Clinigol, sef un o’r papurau sydd wedi’u cynnwys yn Adroddiadau’r Bwrdd Cyhoeddus ar 4 Awst 2022. Gallwch ddod o hyd i’r dogfennau hyn yn yr adran Dogfennau Technegol (agor mewn dolen newydd) ar ein gwefan.


Roedd ein gwaith ymgysylltu clinigol yn cynnwys proses i nodi pa wasanaethau clinigol a chymorth y gallai lleoliad penodol yr ysbyty newydd o fewn ardal o’r parth y cytunwyd arno rhwng ac yn cynnwys Arberth a Sanclêr (h.y. naill ai ymhellach i’r dwyrain, canol neu orllewin) effeithio ar eu hyfywedd ar gyfer darparu gwasanaethau. Arweiniodd yr ymarfer hwn, ynghyd ag ymrwymiad blaenorol gan ein Bwrdd Iechyd i archwilio ymhellach i effaith ysbyty newydd ar wasanaethau menywod a phlant, at ddau werthusiad clinigol, sef:
• Gwasanaethau strôc
• Gwasanaethau gofal pediatrig, obstetrig a newyddenedigol

Canfu’r grŵp arbenigol clinigol ar gyfer gwasanaethau strôc y byddai unrhyw un o’r ardaloedd yn y parth yn addas ar gyferYsbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd oherwydd y ffocws ar sut mae cleifion yn cael eu trin y tu hwnt i’w derbyniad i ysbyty.

Roedd y grŵp arbenigol ar gyfer obstetreg, gwasanaethau newyddenedigol a phediatreg o’r farn bod gwahaniaeth i’r gwasanaethau o ran lleoliad yr ysbyty o fewn gwahanol rannau o’r parth. 

 

Isod, rydym yn darparu’r nodweddion gwahanol rhwng y safleoedd gan gynnwys y safbwynt clinigol hwn.
Gallwch ddarllen adroddiadau manylach am bob safle drwy fynd i’n gwefan ac edrych ar y Dogfennau Technegol (agor mewn dolen newydd) o’r enw Adroddiadau Bwrdd Cyhoeddus 4 Awst 2022

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: