Neidio i'r prif gynnwy

Yr hyn yr ydym yn ceisio ei ddysgu

Ar hyn o bryd, nid ydym yn ffafrio safle ar gyfer yrYsbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd ac nid ydym wedi prynu unrhyw safle na thir ar gyfer y datblygiad hwn. Mae prynu safle ac agor ysbyty arno yn amodol ar gyllid Llywodraeth Cymru, sydd heb ei gadarnhau eto. Yn yr ymgynghoriad hwn byddwn yn gofyn y canlynol i chi:

  • Pa un o dri safle posibl yw’r lleoliad gorau ar gyfer ein hysbyty newydd a pham.
  • Pryderon a allai fod gennych am unrhyw un o’r tri safle posibl, fel y gallwn fod yn ymwybodol ohonynt ac osgoi, lleihau neu fynd i’r afael ag unrhyw effaith os yn bosibl.
  • Unrhyw beth arall y credwch sydd angen i ni ei ystyried – edrychwn ymlaen at glywed unrhyw syniadau newydd sydd gennych.

Gall eich barn, yn ogystal â thystiolaeth ac ystyriaethau eraill, ddylanwadu ar benderfyniadau yn y dyfodol mewn perthynas â lleoliad yr ysbyty newydd. Bydd y Bwrdd Iechyd yn cyfarfod yn ddiweddarach yn y flwyddyn (disgwylir mai haf 2023 fydd hi) i ystyried eich adborth yn ogystal â gwybodaeth a thystiolaeth arall i ddiystyru safleoedd neu ddewis safle a ffefrir.

Bydd Aelodau’r Bwrdd yn ystyried y cyfan y maent wedi’i glywed yn arwain at, ac yn ystod, yr ymgynghoriad hwn, gan gynnwys yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd, a fydd yn ystyried sut y gallai pobl gael eu heffeithio a beth sydd angen ei wneud i leihau effeithiau negyddol. Byddant hefyd yn ystyried unrhyw wybodaeth newydd a allai ddod i’r amlwg o ganlyniad i’r ymgynghoriad neu waith technegol a masnachol parhaus.

Mae’n bwysig eich bod yn gwybod bod y pwyntiau canlynol eisoes wedi cael eu penderfynu. Mae hyn yn golygu nad ydynt yn agored i ddylanwad yn yr ymgynghoriad hwn:

  • Y tri safle yr ydym yn ymgynghori arnynt.
  • Y weledigaeth ar gyfer gwasanaethau a strwythur ein rhwydwaith ysbytai y cytunwyd arnynt yn ein strategaeth iechyd a gofal, Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach: Cenedlaethau’r Dyfodol yn Byw Bywydau Iach. Ceir rhagor o fanylion a gallwch ddarllen y strategaeth gyfan drwy fynd i’n gwefan ac edrych ar y dolenni defnyddiol yn yr adran Dogfennau Technegol (agor mewn dolen newydd). Fe’i crynhoir fel a ganlyn:
    • Rhwydwaith o gyfleusterau iechyd a gofal cymunedol a gefnogir gan fwy o ofal yn y gymuned.
    • Tri phrif ysbyty:
      • Ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio mawr newydd wedi’i leoli’n ganolog rhywle rhwng Arberth a Sanclêr.
      • Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth, yn parhau i ddarparu gwasanaethau ysbyty ar gyfer canolbarth Cymru fel y nodir yn y strategaeth “Darparu Gofal Aciwt Gwledig Ardderchog”, a gyhoeddwyd yn 2021, (ar gael yn adran dolenni defnyddiol ar ein gwefan).
      • Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, gyda meddygaeth acíwt yn cael ei chadw.
    • Dau ysbyty’n cael eu haddasu at ddibenion gwahanol –Ysbyty Glangwili ac Ysbyty Llwynhelyg – a fydd yn cynnig ystod o wasanaethau cymunedol i gefnogi’r model cymdeithasol ar gyfer iechyd a llesiant.

Sylwch, rydym hefyd wedi bod yn trafod sut rydym yn darparu gwasanaethau ysbyty plant (pediatreg), yn ne rhanbarth Hywel Dda, cyn y byddwn wedi adeiladuYsbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd. Mae hyn oherwydd bod gennym fodel gwasanaeth dros dro ar waith ar hyn o bryd. Rydym yn bwriadu ymgynghori â’r cyhoedd ar hyn yn ddiweddarach yn 2023. Bydd diweddariadau’n cael eu darparu ar ein gwefan ac yn y cyfryngau lleol.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: