Neidio i'r prif gynnwy

Gyda phwy rydyn ni eisiau siarad

Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr eich bod wedi cymryd yr amser i rannu eich barn â ni. Rydym yn ymgynghori â phob aelod o’r cyhoedd sy’n byw neu’n gweithio yn ein hardal neu sydd â diddordeb ynddi.

Fel aelodau o’n cymuned efallai y byddwch yn cael triniaeth, yn gweithio o fewn, neu yn ymweld â’n Hysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd, ac felly mae’n bwysig ein bod yn gwrando ar farn pawb.

Rydym yn cydnabod bod gan bobl ddiddordebau a safbwyntiau gwahanol p’un a ydych yn defnyddio ein gwasanaethau, yn gofalu am rywun, yn gweithio gyda ni fel staff, myfyrwyr neu wirfoddolwyr, yn cynrychioli sefydliad a allai gael ei effeithio gan ein cynigion neu â diddordeb mewn iechyd a llesiant.

Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd yn y siroedd cyfagos ac yn annog trigolion a sefydliadau yn yr ardaloedd hynny i rannu eu barn.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: