Beth yw’r ymgynghoriad hwn? Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi tri safle posibl ar gyferYsbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd, i ddarparu gofal brys a gofal mewn argyfwng yn ogystal â llawdriniaethau wedi’u cynllunio, yn ne ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am 12 wythnos o ddydd Iau 23 Chwefror 2023.
Mae mwy o wybodaeth am y tri safle ar gael yma (agor mewn dolen newydd), ond dyma grynodeb ohonynt:
- Gerddi’r Ffynnon, Hendy-gwyn ar Daf – tir amaethyddol i’r gogledd-ddwyrain o ganol y dref.
- Tŷ Newydd, Hendy-gwyn ar Daf – tir amaethyddol ac adeiladau i’r dwyrain o safle’r hen hufenfa a chanol y dref.
- Sanclêr – tir amaethyddol ar hen gaeau Bryncaerau, wrth ymyl cyffordd yr A40 a’r A477.
Yn y ddogfen hon rydym yn cyflwyno’r canlynol:
- Pam fod Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd yn rhan hanfodol o sut rydym yn bwriadu gwireddu ein gweledigaeth ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru iachach, yr hyn yr ydym wedi’i wneud hyd yn hyn a pham yr ydym wedi rhoi’r tri safle posibl ar y rhestr fer.
- Manylion am y safleoedd a ffactorau eraill y gallech fod am eu hystyried wrth lunio eich barn ar bob safle.
- Sut gallwch chi gymryd rhan a beth fyddwn ni’n ei wneud gyda’r adborth rydych chi’n ei rannu.