Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw eich sefydliad GIG lleol. Rydym yn cynllunio, yn trefnu ac yn darparu gwasanaethau iechyd i bron 400,000 o bobl ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Rydym yn rheoli ac yn talu am y gofal a’r driniaeth y mae pobl yn eu cael yn yr ardal hon a hynny ar gyfer iechyd corfforol, iechyd meddwl ac anableddau dysgu.
Ar hyn o bryd rydym yn darparu gwasanaethau drwy:
Trefnir gwasanaethau tra arbenigol, megis rhai triniaethau trawma mawr, gofal cardiaidd (y galon), a llosgiadau cymhleth, drwy Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru. Gellir darparu’r gwasanaethau hyn y tu allan i ffiniau ein hardal, er enghraifft yn Abertawe neu Gaerdydd.
Rydym yn darparu gwasanaethau’r GIG ar draws chwarter ehangdir Cymru yn y Canolbarth a’r Gorllewin ac mae ein cymunedau wedi’u gwasgaru’n eithaf eang ar draws ardaloedd gwledig.
Mae bron i hanner ein poblogaeth (48.8%) yn byw yn Sir Gaerfyrddin, 32.5 y cant yn byw yn Sir Benfro a 18.7 y cant yng Ngheredigion. Mae gennym ffin fawr gyda siroedd eraill, ac felly mae cymunedau yn ne Gwynedd, gogledd Powys ac Abertawe /Castell-nedd Port Talbot hefyd yn defnyddio ein gwasanaethau iechyd.