Neidio i'r prif gynnwy

A wyddoch chi?

Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu’n barhaus â’n cymunedau. Mae hyn yn golygu y byddwn yn siarad â chi, yn gwrando arnoch, ac yn eich cynnwys yn barhaus. Nid ydym eto’n ymgynghori ar y gwasanaethau, y cyfleusterau a’r ffyrdd penodol o ddarparu gofal yn yr Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd. Felly, ni fydd y rhain yn rhan o’r rhan ffurfiol o’r ymgynghoriad hwn, na phenderfyniad y Bwrdd a fydd yn dilyn yn 2023. Fodd bynnag, rydym yn dal i fod eisiau gwrando ac ymgysylltu’n gynnar a pharhaus â phobl ynghylch yr hyn sy’n bwysig, felly mae croeso i chi drafod hyn gyda ni mewn digwyddiadau a byddwn yn dogfennu hyn fel y gellir ei rannu a’i ystyried wrth i’r Bwrdd Iechyd symud ymlaen â chynlluniau.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: