Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad Gweithredol

Diolch i chi am ddangos diddordeb yn ein hymgynghoriad ar safle ar gyfer ein Hysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd. Mae hon yn garreg filltir arall i’n Bwrdd Iechyd o ran cyflawni ein strategaeth ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach: Cenedlaethau’r Dyfodol yn Byw Bywydau Iach ac i wella canlyniadau iechyd ar gyfer ein cymunedau. Gallwch ddarllen ein strategaeth ar ein gwefan  yn yr adran Dogfennau Technegol (agor mewn dolen newydd), neu gallwch gael copi drwy ein ffonio ar 0300 303 8322.


Daw ar adeg o galedi i’n cymunedau gan fod yn rhaid i bob person ystyried sut y gallant gynnal eu hiechyd, eu llesiant a’u ffordd o fyw yn y cyfnod heriol hwn. Ond rydym wedi wynebu heriau o’r blaen, yn enwedig dros y blynyddoedd diwethaf o ddelio â phandemig COVID-19. Mae gofal, ymroddiad, dewrder ac aberth ein staff, gwirfoddolwyr, sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw,
a’n cymunedau, wedi bod yn ysbrydoledig.


Ffagl gobaith pwysig i ni yn y Bwrdd Iechyd fu’r gobaith o gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer gwell iechyd a llesiant. Ym mis Ionawr 2022 fe wnaethom gytuno ar Achos Busnes Rhaglen sy’n nodi, ar lefel uchel, sut yr ydym yn bwriadu gwneud hyn, ac mae’n ceisio cymorth Llywodraeth Cymru o hyd at £1.3 biliwn o fuddsoddiad mewn iechyd a llesiant yn y Canolbarth a’r Gorllewin. Gallwch ddarllen ein Hachos Busnes Rhaglen drwy droi at yr adran DogfennauTechnegol ar ein gwefan.


Mae prynu safle ac agorYsbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd yn amodol ar gyllid gan Lywodraeth Cymru, sydd heb ei gadarnhau eto. Os bydd yn llwyddiannus, byddai’n cymryd sawl blwyddyn i’w gyflawni. Fodd bynnag, mae’n cynnig cyfle digynsail inni lunio a thrawsnewid gofal ar gyfer ein cymunedau a chenedlaethau’r dyfodol.Yn y cyfamser, rydym yn parhau i weithio gyda chi, ein cymunedau, i baratoi ac i ddarparu’r gwasanaethau iechyd a gofal gorau y gallwn.


Sail ein haddewid, ein strategaeth, yw dod â chymaint o ofal â phosibl yn nes at bobl drwy ffyrdd newydd o ddarparu gofal a chanolfannau iechyd a llesiant integredig mewn cymunedau sy’n agos at eich cartrefi yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

 

Rhan allweddol arall o’r gwaith yw cael gwasanaethau ysbyty sy’n gallu mynd i’r afael â heriau presennol i ddarparu gofal gwell a mwy sefydlog i chi pan fydd ei angen arnoch. Mae hyn yn cynnwys adeiladuYsbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd yn ne ein hardal.
Mae ein gwasanaethau yn fregus ac mae hyn yn rhannol oherwydd sut mae ein hysbytai yn gweithio ar hyn o bryd a sut rydym yn gwasgaru ein timau clinigol ar draws ein pedwar prif ysbyty mewn daearyddiaeth fawr a gwledig. ByddYsbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd yn dwyn ein timau uwch feddygon mewn adrannau allweddol megis meddygaeth frys a thimau llawfeddygol ynghyd. Ar hyn o bryd, maent wedi’u rhannu rhwng ein hysbytai presennol yng Nghaerfyrddin a Hwlffordd.


Bydd ysbytai Glangwili a Llwynhelyg yn parhau i chwarae rhan bwysig mewn darparu gwasanaethau iechyd gwerthfawr i chi. Mae hyn yn cynnwys gofal brys dan ofal Meddygon Teulu, gweithdrefnau achosion dydd, gwelyau ar gyfer therapi ac adferiad, cyfleusterau ar gyfer profion, a nifer o glinigau cleifion allanol.


Gofynnwn i chi ddarllen y ddogfen hon a dod i’n digwyddiadau i ddysgu mwy am pam mae angen i ni newid, sut y cyrhaeddom y pwynt hwn a manylion y tri opsiwn safle ar gyfer ein hysbyty newydd – dau ger Hendy-gwyn ar Daf ac un ger Sanclêr. Rydym am i bawb yn ein cymunedau i rannu eu barn a’n darparu ag atebion i’r cwestiynau. Bydd hyn yn ein helpu – ynghyd â thystiolaeth arall – i benderfynu ar y lleoliad gorau ar gyfer ysbyty newydd.

Bydd sawl blwyddyn cyn y bydd ysbyty newydd ar agor i chi, ond nawr yw eich cyfle i gymryd rhan a rhannu eich barn â ni am y tri safle yr ydym yn eu hystyried.

Diolch yn fawr

Maria Battle, Cadeirydd                       Steve Moore, Prif Weithredwr                       Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: