Neidio i'r prif gynnwy

Y Gymraeg

Mae llawer ohonoch, 47%, yn siarad Cymraeg, sy’n fwy na’r cyfartaledd ar draws Cymru. Bydd angen i’r gwaith o adeiladu ein Hysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd ar unrhyw un o’r tri safle adlewyrchu’r iaith Gymraeg a’r anghenion diwylliannol lleol. Bydd hyn yn cynnwys cydymffurfio â’r Safonau Iaith Gymraeg statudol, gan sicrhau bod pob cyfathrebiad, gan gynnwys digidol, print ac arwyddion, yn ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae ysbyty newydd yn rhoi cyfle i’r Bwrdd Iechyd ddathlu ein hiaith a’n diwylliant, gan eu hintegreiddio i wead yr adeilad, a gweithio i hyrwyddo amgylchedd dwyieithog i’n cleifion a’n staff. Mae gan y Bwrdd Iechyd darged i sicrhau bod gan 50% o’n gweithlu lefel sylfaenol o sgil yn y Gymraeg o fewn y 10 mlynedd nesaf. Mae’r Asesiad llawn o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn rhoi rhagor o fanylion, ond byddem yn croesawu unrhyw sylwadau eraill.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: