Neidio i'r prif gynnwy

Teulu Jones – ein teulu darluniadol – Ben

Ben Jones yn codi llaw tra’n dal tedi Ben yw gor-wŷr Alun Jones. Mae’n dair oed ac yn byw gyda’i fam Lianne, a Mamgu a Tadcu, Sioned a Rhys yn y Tymbl, ger Llanelli. Mae Ben ar wyliau ynWdig, Sir Benfro, pan mae’n llithro ar y grisiau wrth grancota. Mae ganddo bwmp bach i’w ben a’r croen wedi agor uwch ei lygad. Ar hyn o bryd, oherwydd y mân anaf, byddai Ben yn cael ei gludo i Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd. Pe bai angen iddo aros dros nos, byddai’n cael ei drosglwyddo iYsbyty Glangwili. Gall meddygon benderfynu ei gadw i mewn dros nos rhag ofn iddo ddirywio. Mae’n bosibl y caiff ei ryddhau drannoeth a byddai unrhyw apwyntiadau dilynol i gleifion allanol yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, sydd tua 20 munud i ffwrdd mewn car.

Pan fydd Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd yn ei le, byddai Ben yn cael ei gludo i Ysbyty Cymunedol Llwynhelyg i gael triniaeth. Pe bai meddygon yn teimlo bod angen aros dros nos arno rhag ofn y byddai’n dirywio, byddent yn ei drosglwyddo i’r ysbyty newydd. Efallai y caiff ei ryddhau drannoeth. Byddai apwyntiad claf allanol dilynol mewn cyfleuster iechyd a gofal cymunedol yn agos at ei gartref yn Llanelli, gan arbed amser, teithio a chost.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: