Neidio i'r prif gynnwy

Nodweddion gwarchodedig

Dyma grynodeb o’r hyn rydym wedi’i ddysgu hyd yma drwy ein gwaith:

Gall rhai pobl â nodwedd warchodedig fod yn fwy difreintiedig neu wynebu mwy o anawsterau wrth geisio cael mynediad at wasanaethau gofal iechyd. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn amddiffyn pobl rhag cael eu trin yn waeth nag eraill oherwydd:

• Oed

• Anabledd

• Ailbennu rhywedd

• Priodas neu bartneriaeth sifil

• Beichiogrwydd a mamolaeth

• Hil

• Crefydd a chred (gan gynnwys dim cred grefyddol)

• Rhyw

• Cyfeiriadedd rhywiol 

 

Yn ein polisïau a’r ffordd yr ydym yn gweithio, rhaid inni wneud y canlynol:

• Lleihau gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac ymddygiad arall a waherddir gan neu o dan y Ddeddf.

• Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig perthnasol a phobl nad ydynt.

• Meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig perthnasol a phobl nad ydynt. Rydym hefyd yn anelu at hyn:

• Dileu neu leihau anfanteision a ddioddefir gan bobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol ac sy’n gysylltiedig â’r nodwedd honno.

• Diwallu anghenion pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol sy’n wahanol i anghenion pobl nad ydynt yn ei rhannu.

• Annog pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus neu mewn unrhyw weithgaredd arall lle mae cyfranogiad pobl o’r fath yn anghymesur o isel; ac

• Ystyried sut y byddwn yn mynd i’r afael â rhagfarn a dealltwriaeth.

Gallai adeiladuYsbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd ar unrhyw un o’r tri safle posibl yn ne ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda achosi i bobl â nodweddion gwarchodedig brofi effeithiau cadarnhaol a/neu negyddol, canlyniadau anfwriadol neu fylchau yn y ddarpariaeth gofal iechyd.

Byddwn yn archwilio ymhellach, yn ystod yr ymgynghoriad hwn, y gwahaniaethau posibl a achosir gan bob un o’r tri opsiwn safle ar gyfer ein Hysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd. Byddwn hefyd yn dangos sut y gellid osgoi neu leihau effeithiau negyddol.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: