Neidio i'r prif gynnwy

Dadansoddiad o effaith amddifadedd

Mae data ar ein poblogaeth yn dangos ardaloedd o amddifadedd uchel yn nwyrain a gorllewin ein hardal. Mae amddifadedd, diffyg angenrheidiau, yn ffactor allweddol sy’n gysylltiedig ag anghydraddoldebau iechyd. Mae ardaloedd o amddifadedd uchel hefyd yn fwy tebygol o ddioddef o dlodi tanwydd ac yn llai tebygol o fod â’u cludiant eu hunain, a all fod yn her wrth deithio i’rYsbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio. Fodd bynnag, bydd y ffaith bod mwy o gyfleusterau cymunedol ar gael yn lleol, yn ogystal â datblygu gwasanaethau cymunedol ac addasu Glangwili a Llwynhelyg yn ysbytai cymunedol, yn rhoi’r cyfle i gael apwyntiadau cleifion allanol a phrofion yn lleol. Mae hyn yn golygu y bydd y rhan fwyaf o gleifion yn parhau i gael eu gofal yn bennaf yn eu cartref a’u cymunedau eu hunain neu o ysbytai mwy lleol. Bydd hyn yn helpu i leihau effaith negyddol bosibl cymunedau difreintiedig yn gorfod teithio ymhellach i’rYsbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd, tra hefyd yn darparu gofal yn nes at adref.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: