Neidio i'r prif gynnwy

Cydraddoldeb ac effeithiau iechyd

Bydd newid gwasanaethau iechyd a gofal yn effeithio ar bob un ohonom sy’n byw yn ardal Hywel Dda waeth beth fo’n hoedran, rhyw, anabledd (corfforol, iechyd meddwl ac anableddau dysgu), hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, neu feichiogrwydd a mamolaeth.

Rhaid inni sicrhau bod ein cynigion yn deg i bawb a chymryd gofal arbennig i ystyried pobl sy’n agored i niwed. Rydym eisoes wedi ymgysylltu â grwpiau sy’n cynrychioli pobl agored i niwed a byddwn yn parhau i wneud hynny i sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys drwy gydol ein hymgynghoriad.

Rydym wedi cynhyrchu’r hyn a elwir ynAsesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd ar gyfer ein Hachos Busnes Rhaglen gyfan, sy’n cynnwys darparu ein Hysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd.

Gallwch gyrchu’r fersiwn lawn o’r Asesiad yma neu drwy fynd i dudalennau gwe yr ymgynghoriad ac i’r adran DogfennauTechnegol. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth fanwl, cysylltwch â: hyweldda.engagement@wales.nhs.uk

Mae’r Asesiad yn cynnwys trosolwg o’r effeithiau cadarnhaol a negyddol posibl ar bobl, a sut y byddwn yn eu lliniaru ac yn mynd i’r afael â’n dyletswyddau cydraddoldeb. Defnyddir y ddogfen i helpu penderfynwyr wrth ystyried datblygiadau yn y dyfodol.

Gwnaethom ddiweddaru’r Asesiad fel rhan o’r arfarniadau a gynhaliwyd gennym wrth lunio rhestr fer o opsiynau safle ar gyfer yrYsbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd. Bydd y ddogfen yn cael ei diweddaru’n barhaus wrth i ni ddysgu mwy ac mae ar gael yn llawn trwy ymweld â’n tudalennau gwe ymgynghoriad safle o dan Dogfennau Technegol (agor menw dolen newydd).

Rydym hefyd yn bwriadu cynnal grwpiau ffocws gyda’r cyhoedd, ac yn enwedig gyda grwpiau agored i niwed neu grwpiau difreintiedig (a elwir yn bobl â nodweddion gwarchodedig) neu bobl a allai gael eu heffeithio gan adeiladu ysbyty newydd, er enghraifft y rhai sy’n byw’n agos at y tri safle posibl. Bydd gwybodaeth o’r grwpiau hyn yn cael ei defnyddio yn yr Asesiad wrth i ni ddysgu mwy.

 

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: