Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn gwrando

Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n bwysig eich diweddaru chi, yn enwedig pan fyddwch chi wedi cymryd yr amser i rannu eich barn â ni.

Bydd yr adroddiad allbwn yn cael ei gyhoeddi, ei ystyried yn llawn, a’i drafod fel rhan o gyfarfod y Bwrdd Iechyd a gynhelir tua diwedd haf 2023 mae’n debyg. Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd Iechyd yn gyhoeddus, gyda phobl naill ai’n gallu mynychu’n mewn person neu wylio’n ddigidol. Byddwn yn hysbysebu’r cyfarfod hwn ar ein gwefan biphdd.gig.cymru a thudalennau cyfryngau cymdeithasol.

Bydd grŵp prosiect ar gyfer yr ymgynghoriad, sy’n cynnwys staff y Bwrdd Iechyd, yn cyflwyno argymhelliad i Gyfarwyddwyr ac Aelodau Annibynnol y Bwrdd Iechyd ar y ffyrdd posibl ymlaen ar gyfer tynnu rhestr fyrrach neu ddewis safle ar gyferYsbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd. Gelwir hyn yr adroddiad terfynol.

Bydd aelodau’r Bwrdd yn ystyried y cyfan y maent wedi’i glywed yn arwain at, ac yn ystod, yr ymgynghoriad hwn, gan gynnwys yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd, a fydd yn ystyried sut y gallai pobl gael eu heffeithio a beth sydd angen ei wneud i leihau effeithiau negyddol. Byddant hefyd yn ystyried unrhyw wybodaeth newydd a allai ddod i’r amlwg o ganlyniad i’r ymgynghoriad neu’r gwaith technegol a masnachol parhaus. Efallai y bydd sawl blwyddyn cyn inni agor ysbyty newydd i’r cyhoedd. Mae hyn oherwydd bod angen i’r Bwrdd Iechyd wybod canlyniad yr ymgynghoriad, a’i gais Achos Busnes Rhaglen i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau’r cymorth a’r cyllid angenrheidiol.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: