Neidio i'r prif gynnwy

Eich adborth a datganiad preifatrwydd

Rydym wedi contractio sefydliad ymchwil annibynnol Opinion Research Services (ORS) i gasglu a dadansoddi’r holl adborth a ddaw i law fel rhan o’r ymgynghoriad hwn. Ar y cyd â nhw, rydym yn casglu eich adborth fel y gallwn ddefnyddio eich barn i’n helpu i wneud penderfyniadau am safle ar gyferYsbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd.

Bydd ORS yn darparu dadansoddiad annibynnol ac adroddiad allbwn i’r Bwrdd Iechyd. Bydd hwn yn cael ei rannu gyda’r Cyngor Iechyd Cymuned (a fydd yn cael ei ddisodli gan Gorff Llais y Dinesydd yn ystod yr ymgynghoriad hwn) i gael ei sylwadau. Bydd yr adborth a gawn gan unigolion yn ddienw. Gall safbwyntiau a ddarperir gan sefydliadau neu bobl sy’n gweithredu mewn swyddogaeth swyddogol gael eu cyhoeddi’n llawn.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn casglu’r data a gyflwynwch fel gwybodaeth hanfodol er mwyn i ni allu cyflawni’r dasg gyhoeddus o ymgynghori â chi, a dyma’r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio’ch data personol. Bydd y Bwrdd Iechyd ac ORS yn prosesu unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn yn unol â’r rheoliadau diogelu data diweddaraf. Bydd y Bwrdd Iechyd ac ORS yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir hyd nes y bydd unrhyw ganlyniadau o’r ymgynghoriad wedi’u gweithredu, neu am flwyddyn ar yr hiraf.

I gael ein datganiad preifatrwydd llawn ar yr ymgynghoriad hwn, ewch i datganiad preifatwydd (agor mewn dolen newydd).

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: