Neidio i'r prif gynnwy

Cymryd rhan

Yn y ddogfen hon rydym wedi nodi hanfod yr ymgynghoriad hwn, a cheir disgrifiad cyflym ar dudalen saith. Cymryd rhan Bydd gwybodaeth am sut i gymryd rhan ar gael mewn mannau amrywiol gan gynnwys ysbytai, safleoedd cymunedol, adeiladau’r cyngor a sefydliadau’r sector gwirfoddol. Ein nod yw cynnal digwyddiadau a gweithdai galw heibio, mewn person ac ar lwyfannau digidol, a byddwn yn asesu ein cynlluniau yn barhaus gan ystyried unrhyw effaith bosibl o COVID-19.

Byddwn yn rhannu diweddariadau rheolaidd ar ein gwefan biphdd.gig.cymru/safle-ysbyty-newydd, a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol (Facebook, Twitter, Instagram, aYouTube), a byddwn yn gweithio’n agos gyda’r cyfryngau lleol gan gynnwys radio lleol a sefydliadau’r wasg.

Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr eich bod wedi cymryd yr amser i rannu eich barn â ni – mae mewnbwn pob person yn bwysig.

Yn yr ymgynghoriad hwn am ein Hysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd, rydym eisiau gwybod y canlynol:

• Pa un o’r tri safle posibl yw’r lleoliad gorau ar gyfer ein hysbyty newydd yn eich barn chi a pham.

• Pryderon a allai fod gennych am unrhyw un o’r tri safle posibl, fel y gallwn fod yn ymwybodol ohonynt a’u hosgoi, mynd i’r afael â nhw neu leihau eu heffaith os yn bosibl.

• Unrhyw beth arall y credwch sydd angen i ni ei ystyried – edrychwn ymlaen at glywed unrhyw syniadau newydd sydd gennych. Bydd eich adborth, ynghyd â thystiolaeth ac ystyriaethau eraill, yn helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddewis y safle gorau i adeiladu ein Hysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd arno. Cymerwch amser i ddarllen y ddogfen hon ac yna rhannwch eich barn â ni.

Gallwch wneud hyn yn y ffyrdd canlynol:

• Llenwi’r holiadur sydd gyda’r ddogfen hon a’i bostio i: Opinion Research Services, FREEPOST SS1018, PO Box 530, Abertawe, SA1 1ZL (ni fydd angen stamp arnoch)

• Mewn e-bost: hyweldda.engagement@wales.nhs.uk

• Siarad â ni yn un o’n digwyddiadau (ewch i’r wefan uchod am ddigwyddiad yn eich ardal chi neu ar-lein), neu drwy ffonio 0300 303 8322 (pris galwad leol)

• Ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #SafleYsbytyHywelDda

o Twitter @BIHywelDda

o Facebook @SafleYsbytyNewyddHywelDdaNewHospitalSite

 

Y dyddiad cau i ddweud eich dweud, fel y gellir cynnwys eich barn yn yr ymgynghoriad yw dydd Gwener 19 Mai 2023.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: