Neidio i'r prif gynnwy

Yr hyn sydd wedi digwydd hyd yn hyn

Ym mis Chwefror 2022, gwnaethom anfon Achos Busnes Rhaglen i Lywodraeth Cymru. Mae Achos Busnes Rhaglen yn ddogfen lefel uchel, sy’n ceisio sicrhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer rhaglen fuddsoddi. Gallwch ddarllen y ddogfen lawn drwy fynd i a gweld dolenni defnyddiol yn yr adran Dogfennau Technegol (agor mewn dolen newydd).

Mae datblygiad ein hysbyty newydd yn amodol ar y cymorth hwn gan Lywodraeth Cymru, a phe na bai cyllid yn cael ei gytuno, ni fyddem yn gallu prynu’r safle ar gyfer yr ysbyty newydd.

Mae ein Hachos Busnes Rhaglen yn ceisio’r buddsoddiad mwyaf mewn iechyd a llesiant y bydd gorllewin Cymru erioed wedi’i weld, tua £1.3biliwn. Mae’n adeiladu ar ein haddewid i ddod â chymaint o ofal â phosibl yn nes atoch, gan gynnwys adeiladu neu ddatblygu nifer o gyfleusterau cymunedol (wedi’u rhestri ar dudalen 7), addasu ysbytai Llwynhelyg a Glangwili at ddibenion gwahanol, adnewyddu Ysbyty Bronglais ac Ysbyty Tywysog Philip, yn ogystal ag adeiladu Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd.

Os bydd yn llwyddiannus yn y cam cyntaf hwn, yna mae tri cham pellach, a allai gymryd sawl blwyddyn, i sicrhau’r buddsoddiad eithaf sydd ei angen i ddarparu’r cyfleusterau a restrir ar dudalen 7. Rydym wedi penderfynu ymgynghori â chi ar y safle posibl ar gyfer Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd yn awr, cyn cael buddsoddiad, oherwydd ein bod wedi ymrwymo i ymgysylltu’n barhaus â chi ac oherwydd bod ein gwasanaethau’n fregus, ac ni allwn golli amser wrth gyflawni ein gweledigaeth.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: