Neidio i'r prif gynnwy

Archwilio safleoedd posibl ar gyfer ysbyty newydd - yr hyn a ddysgom ac a wnaethom

Archwilio safleoedd posibl ar gyfer ysbyty newydd - yr hyn a ddysgom ac a wnaethom Cytunwyd ar barth daearyddol cyffredinol yr ysbyty newydd – rhwng Arberth a Sanclêr – oherwydd dyma’r ardal a fyddai’n golygu bod y rhan fwyaf o’n poblogaeth o fewn awr i adran achosion brys (naill ai yn yr ysbyty hwn, Ysbyty Bronglais, Aberystwyth neu Ysbyty Treforys, Abertawe).

Rydym wedi gwneud llawer o waith i gyfyngu ar yr opsiynau ar gyfer lleoliadau penodol:

  • Fe wnaethom edrych am safleoedd a gofyn i chi am enwebiadau safle o fewn y parth yn ystod ymarfer ymgysylltu yn haf 2021, o’r enw Adeiladu Dyfodol Iachach ar ôl COVID-19. Gyda’n gilydd, nodwyd 11 o safleoedd posibl. Fe wnaethom hefyd ofyn i chi beth oeddech chi’n meddwl oedd yn bwysig i ni ei ystyried wrth lunio rhestr fer o safleoedd
  • Mae cynrychiolwyr rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys y cyhoedd, staff ac arbenigwyr wedi ein helpu ar wahanol gamau i gynnal y broses arfarnu tir a gwerthuso pob un o’n safleoedd posibl. Ar y pryd galwyd y pum safle ar y rhestr fer yn safle C Hendy-gwyn ar Daf, safle J Sanclêr, safle 12 Hendy-gwyn ar Daf, safle 17 Sanclêr a safle 7 Arberth
  • Edrychodd pedwar ‘grŵp arfarnu tir’ ar y pum safle o safbwynt ystyriaethau clinigol, ystyriaethau ariannol ac economaidd, ystyriaethau gweithlu ac ystyriaethau technegol, gan gynnwys yr hyn a oedd yn bwysig i’r cyhoedd. Gallwch ddarllen adroddiadau manylach o bob un ohonynt drwy fynd i’n gwefan ac edrych ar yr adran Dogfennau Technegol (agor mewn dolen newydd)(fe’u gelwir yn Adroddiadau Allbwn Arfarnu Technegol).

Yng Nghyfarfod Cyhoeddus y Bwrdd ar 4 Awst 2022, clywodd aelodau’r Bwrdd Iechyd holl allbynnau’r grwpiau arfarnu tir. Yn y cyfarfod hwn, dywedodd y Bwrdd y dylai dau safle yn Hendy-gwyn ar Daf (safleoedd 12 a C) ac un o’r safleoedd yn Sanclêr (safle 17) barhau i gael eu hystyried a chytunwyd yn unfrydol i ymgynghori â’r cyhoedd ar y safleoedd hyn.

Dyma’r safleoedd a ddiystrwyd a pham:

  • Sanclêr (safle J) - Y safle hwn oedd â’r sgôr risg uchaf yn seiliedig ar nodweddion y safle megis anawsterau gyda mynediad brys i’r safle a bod yn fwy pellennig o ganol tref. Sgoriodd hefyd dipyn yn is na’r safleoedd eraill yn y broses arfarnu technegol gyda’r cyhoedd.
  • Arberth (safle 7) – Roedd gan y grwpiau gwerthuso clinigol bryderon am y safle hwn, oherwydd ei fod ymhellach i’r gorllewin. Roeddent yn pryderu y gallai’r safle hwn arwain at ostyngiad yn nifer y bobl sy’n dewis cael eu babanod yn Hywel Dda, yn hytrach nag ymhellach i’r dwyrain, a allai hefyd effeithio ar ofal newyddenedigol a phediatrig. Gallai hyn achosi risg i’r swm critigol o weithgarwch sydd ei angen i gadw gwasanaethau’n ddiogel ac yn gynaliadwy. Gallai hefyd gael effaith negyddol ar nifer y gwelyau a gedwir ac ar gadw statws hyfforddai, sef ein gallu i hyfforddi meddygon, nyrsys, a bydwragedd.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: