Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o'n heriau

Iechyd ein cymunedau

Mae ein poblogaeth yn parhau i dyfu, ac mae angen mwy o gymorth ar bobl i aros yn iach ac yn annibynnol, yn enwedig yn y blynyddoedd hyˆn. Mae’r galw ar wasanaethau iechyd a gofal yn cynyddu.

Gwasanaethau bregus

Mae’r ffordd rydym yn darparu gofal wedi newid mewn 50 mlynedd ac yn ein hardal rydym yn dyblygu gofal ar draws pedwar prif ysbyty, gyda gwahaniaethau yn y modd yr ydym yn darparu gwasanaethau, diogelwch, ac ansawdd. Mae hyn yn golygu bod ein gwasanaethau yn fregus ac mae’n anodd datblygu rhai gwasanaethau arbenigol yn ein hardal, sy’n golygu bod pobl yn teithio’n bellach ar eu cyfer ac rydym eisiau cyfle i ddatblygu mwy o’r rhain yn lleol.

Gweithlu

Mae gennym lai o staff na sydd ei angen ac mae ein meddygon yn gweithio mwy o shifftiau (rotas) nag mewn rhai sefydliadau GIG eraill, gan achosi anawsterau i ni o ran cadw a recriwtio staff. Mae hyn yn golygu ein bod yn dibynnu gormod ar staff asiantaeth drud ac oherwydd eu bod yn anghyfarwydd â chanllawiau a gweithdrefnau lleol, ac aelodau eraill o’r tîm, mae hyn yn peri risg o ansawdd gofal gwaeth i chi, a gwasanaethau bregus a allai chwalu.

Digidol

Ar hyn o bryd nid ydym yn defnyddio cyfleoedd digidol yn llawn i ddiwallu anghenion ein poblogaeth yn y ffordd orau, yn enwedig ar gyfer y rhai y mae’n rhaid iddynt deithio i gael mynediad at wasanaethau. Bydd y dechnoleg ddiweddaraf yn eich helpu trwy eich cysylltu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a monitro eich cyflyrau, a bydd hefyd yn ein helpu i ddenu’r gweithlu gorau.

Adeiladau a chyfleusterau

Mae ein hadeiladau ysbyty gan gynnwys y rhan fwyaf o Ysbyty Glangwili a rhywfaint o Ysbyty Llwynhelyg yn hen ac angen llawer o waith cynnal a chadw i’w cadw i weithio’n ddiogel. Nid ydynt yn addas i’r diben ar gyfer gofal iechyd modern a gall eu cyflwr olygu profiad gwaeth i gleifion a staff.

Amgylchedd

Mae ein hen adeiladau a phroblemau eraill megis lefelau uchel o waith cynnal a chadw sydd wedi cronni, systemau inswleiddio a gwresogi gwael, a defnyddio olew fel prif ffynhonnell tanwydd, yn golygu bod gennym rai o’r safleoedd lleiaf effeithlon o ran ynni yng Nghymru.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: