Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r heriau ar hyn o bryd?

Rydym yn rhannu’r un weledigaeth â’n cymunedau - i ni oll fyw bywydau iach a llawen. Rydym yn cydnabod na fydd ein gwasanaethau iechyd, fel y maent yn cael eu trefnu ar hyn o bryd, yn gwireddu’r weledigaeth honno’n effeithiol a disgrifiwn rai o’r heriau isod.

Ers 2017, rydym wedi bod yn siarad â chi gydag ymgysylltiad rheolaidd am ddyfodol gwasanaethau iechyd a gofal, ac fe wnaethom ymgynghori â chi yn 2018 yn yr ymgynghoriad Trawsnewid Ein Gwasanaeth Iechyd, a gallwch gael rhagor o wybodaeth am hynny drwy fynd i’n gwefan ac ymweld â dolenni defnyddiol yn yr adran Dogfennau Technegol (agor mewn dolen newydd).

Yn ymgynghoriad 2018, fe wnaethom ofyn i chi am ofal yn y gymuned a gofal mewn ysbyty. Fe wnaethom ddysgu bod cael gofal a chymorth lle mae ei angen arnoch yn bwysig a dylai hyn fod mor lleol â phosibl, er eich bod yn deall bod adegau pan fydd yn rhaid i chi deithio i gael gofal. Clywsom hefyd eich bod yn pryderu am deithio a thrafnidiaeth, a sut y byddwch yn cyrraedd ac yn cael mynediad at wasanaethau iechyd yn y dyfodol. Mae hyn yn bennaf oherwydd ein daearyddiaeth a’n hardaloedd anghysbell, ond mae hefyd yn gysylltiedig â sut rydym yn defnyddio technoleg.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: