Neidio i'r prif gynnwy

Trafnidiaeth a theithio mewn achosion nad ydynt yn rhai brys

Nod Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 gan Lywodraeth Cymru yw annog pobl i newid eu hymddygiad teithio er mwyn gwneud mwy o ddefnydd o deithio cynaliadwy, carbon isel. Mae hyn yn cynnwys gwneud dewisiadau amgen i deithio mewn car, megis cerdded a beicio, a thrafnidiaeth gyhoeddus yn fwy deniadol, yn haws i’w defnyddio ac yn fwy fforddiadwy.

Gwyddom y bydd hyn yn anodd i bobl sy’n byw ymhellach i ffwrdd o’r ysbyty, neu pan fydd angen gofal brys ar rywun, neu pan na fyddant yn gallu ystyried opsiynau amgen am resymau eraill. Fodd bynnag, yn unol â pholisi cenedlaethol, rydym yn datblygu ein Hysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd gyda theithio llesol yn flaenoriaeth.

Mae hyn yn golygu ein bod am ei gwneud mor hawdd â phosibl, ac annog pawb sy’n gallu, i gerdded neu feicio i’r ysbyty. Rydym hefyd am gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus dros drafnidiaeth mewn car, felly byddwn yn gweithio gyda sefydliadau eraill i wella trafnidiaeth gyhoeddus i safle’r ysbyty. Rydym yn cydnabod y bydd angen cludiant mewn car ar rai pobl, a bod angen digon o le i barcio ar gyfer y cleifion, y staff a’r ymwelwyr hynny sydd angen teithio mewn car.

Bydd ein Strategaeth Trafnidiaeth a Hygyrchedd yn cytuno ar weledigaeth ar gyfer cyfleoedd system drafnidiaeth ar draws ardal Hywel Dda, yn ogystal â model trafnidiaeth i wasanaethu’r ysbyty newydd.

Opsiynau teithio a thrafnidiaeth i

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: