Neidio i'r prif gynnwy

Mynediad amserol mewn argyfwng

Rydyn ni’n gwybod bod rhai ohonoch chi’n bryderus iawn am fynediad prydlon at ofal mewn argyfwng. Mae 93% ohonoch o fewn amser teithio un awr mewn car i Adran Achosion Brys os bydd yr ysbyty newydd o fewn y parth rhwng ac yn cynnwys Arberth a Sanclêr, ac o ystyried Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth ac Ysbyty Treforys yn Abertawe.

Ymatebir i rai argyfyngau, megis damweiniau traffig ffyrdd difrifol, gan glinigwyr sy’n dod i’r lleoliad mewn cerbyd ffordd neu Ambiwlans Awyr, sef y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). Mae gofal yn y man a’r lle yn lleihau’r risg sy’n gysylltiedig â theithio i ganolfan driniaeth. Rydym yn falch o fod wedi gweld y gwelliannau o ran mynediad i Ambiwlans Awyr Cymru, sydd wedi cynyddu i wasanaeth 24/7 ers mis Gorffennaf 2020.

Trwy’r Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd, bydd gennym hefyd uwch feddygon arbenigol ar gael wrth y drws blaen fel bod gennych fynediad cyflym atynt, a’r holl wasanaethau cymorth sydd eu hangen ar gyfer eich gofal.

Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am amseroedd teithio i’r safleoedd drwy fynd i’n gwefan yn yr adran Dogfennau Technegol (agor menw dolen newydd). Gelwir yr adroddiad yn Ddadansoddiad Technegol Dewis Safle WAST ac mae’n rhan o sawl adroddiad a gafodd eu cynnwys yn Adroddiadau’r Bwrdd Cyhoeddus ar 4 Awst 2022. Mae’n cynnwys dadansoddiad o amseroedd teithio presennol fesul gwahanol drafnidiaeth, gan gynnwys llwybrau bysiau a threnau, yn ogystal â cheir a chludiant brys.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: