- Y tri safle yr ydym yn ymgynghori arnynt
- Y weledigaeth ar gyfer gwasanaethau a strwythur y rhwydwaith ysbytai y cytunwyd arnynt yn ein strategaeth iechyd a gofal, Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach, sydd i’w weld ar ein gwefan. Dyma grynodeb:
- Rhwydwaith o gyfleusterau iechyd a gofal cymunedol a gefnogir gan fwy o ofal yn y gymuned
- Tri phrif ysbyty:
- Ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio mawr newydd wedi’i leoli’n ganolog rhywle rhwng Arberth a Sanclêr
- Ysbyty Bronglais, Aberystwyth
- Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli
- Dau ysbyty’n cael eu haddasu at ddibenion gwahanol – Ysbyty Glangwili ac Ysbyty Llwynhelyg – a fydd yn cynnig ystod o wasanaethau cymunedol
Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ar y ffordd ymlaen, bydd aelodau’r Bwrdd yn ystyried y cyfan y maent wedi’i glywed yn arwain at, ac yn ystod, yr ymgynghoriad hwn, gan gynnwys yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd, a fydd yn ystyried sut y gallai pobl gael eu heffeithio a beth sydd angen ei wneud i leihau effeithiau negyddol. Byddant hefyd yn ystyried unrhyw wybodaeth newydd a allai ddod i’r amlwg o ganlyniad i’r ymgynghoriad neu waith technegol a masnachol parhaus.