Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi tri safle posibl ar gyfer Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd yn ne ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – dau safle ger Hendy-gwyn ar Daf ac un ger Sanclêr. Gallwch ddarllen mwy am y safleoedd o dudalen 12 y ddogfen hon.
Nid ydym yn ffafrio safle ac nid ydym wedi prynu unrhyw safle na thir ar gyfer y datblygiad hwn. Mae prynu safle ac agor Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio arno yn amodol ar gyllid Llywodraeth Cymru, sydd heb ei gadarnhau eto ac os bydd yn llwyddiannus, byddai’n cymryd sawl blwyddyn i’w gyflawni.
Yn y cyfamser, rydym yn parhau i weithio gyda chi, ein cymunedau, i baratoi a darparu’r gwasanaethau iechyd a gofal gorau posib.
Fel rhan o hyn, rydym yn ymgynghori â holl aelodau’r cyhoedd sy’n byw, yn gweithio, neu sydd â diddordeb yn ein hardal, yn ogystal â sefydliadau sy’n gweithio ym maes iechyd a llesiant neu sydd â diddordeb ynddo, ar y safleoedd posibl ar gyfer yr ysbyty newydd. Efallai eich bod yn defnyddio ein gwasanaethau, yn ofalwr i rywun sy’n eu defnyddio, neu’n gweithio gyda ni fel staff, myfyrwyr a gwirfoddolwyr. Beth bynnag fo’ch diddordeb mewn iechyd a llesiant, rydym am glywed gennych.
Mae holiadur gyda’r ddogfen hon er mwyn casglu eich barn, neu gallwch fynd ar-lein ar wefan yr ymgynghoriad (agor mewn dolen newydd) neu ffonio 0300 303 8322 (pris galwad leol).