Ni yw eich sefydliad GIG lleol. Rydym yn cynllunio, yn trefnu ac yn darparu gwasanaethau iechyd ar gyfer bron i 400,000 o bobl ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, a hynny drwy’r canlynol:
Pedwar prif ysbyty
Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
Pum ysbyty cymunedol
Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion, Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro
Dwy ganolfan gofal integredig
Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion
Cyfleusterau cymunedol,
gan gynnwys
Trefnir gwasanaethau tra arbenigol, megis rhai triniaethau trawma mawr, gofal cardiaidd (y galon), a llosgiadau cymhleth, drwy Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru. Gellir darparu’r gwasanaethau hyn y tu allan i ffiniau ein hardal, er enghraifft yn Abertawe neu Gaerdydd.