Neidio i'r prif gynnwy

Yr ysbytai fydd gennym

Map showing current main hospitals and new hospital zone  Rydym yn datblygu cynlluniau i gynnig cyfleusterau cymunedol yn agos at eich cartref ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Byddant yn lleoedd lle gallwch gael profion, gofal a thriniaeth, ac apwyntiadau. Bydd gan rai o’r rhain welyau dros nos, megis Dyffryn Aman a Chylch Caron (Tregaron), Llanymddyfri a De Sir Benfro, ac ni fydd gwelyau mewn rhai eraill, megis Aberaeron ac Aberteifi (eisoes ar agor), Caerfyrddin, Cross Hands, Abergwaun, Hwlffordd, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul, Aberdaugleddau, Arberth, Neyland, Pentre Awel, Llanelli a Dinbych-y-pysgod.

Er mwyn dod yn system llesol, mae hefyd angen i’n prif ysbytai ddarparu gofal arbenigol o safon na ellir ei ddarparu mewn mannau eraill yn ein cymunedau.

Ar hyn o bryd mae pob un o’n pedwar prif ysbyty yn darparu gwasanaethau meddygol. Maent i gyd hefyd yn darparu adrannau brys, ac eithrio Ysbyty Tywysog Philip, sydd ag Uned Mân Anafiadau dan arweiniad Meddygon Teulu ac Uned Derbyniadau Meddygol Acíwt.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: