Neidio i'r prif gynnwy

Yr hyn y cytunwyd arno yn ein hymgynghoriad yn 2018

Cytunwyd yn ein hymgynghoriad yn 2018 na fydd llawer o newid i’r ysbytai canlynol:

  • Bydd Ysbyty Bronglais yn parhau i ddarparu gwasanaethau brys, gofal mewn argyfwng a gofal wedi’i gynllunio, gydag achosion mwy arbenigol yn cael eu trosglwyddo i’r Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd, yn ogystal â safleoedd rhanbarthol ar gyfer gofal mwy critigol, fel sy’n digwydd yn awr.
  • Bydd Ysbyty Tywysog Philip yn parhau i ddarparu gofal mân anafiadau dan arweiniad meddygon teulu, yn ogystal â gofal meddygol aciwt i oedolion gyda chymorth diagnostig. Bydd hyn yn cynnwys gwelyau cleifion mewnol dros nos dan arweiniad meddygon ymgynghorol er mwyn i gleifion dderbyn gofal yn lleol.

Bydd y ddau ysbyty hefyd yn trosglwyddo achosion mwy arbenigol i’r Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd, yn ogystal â safleoedd rhanbarthol eraill ar gyfer gofal mwy critigol, fel sy’n digwydd yn awr

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: