Neidio i'r prif gynnwy

Y prif newidiadau i ysbytai

Y prif newidiadau i ysbytai fydd y canlynol:

  • Bydd ysbytai Glangwili a Llwynhelyg yn cael eu haddasu i fod yn ysbytai cymunedol. Bydd y ddau yn darparu canolfannau gofal brys 24/7 dan arweiniad meddygon teulu. Bydd ganddynt gyfleusterau ar gyfer gweithdrefnau achosion dydd, yn ogystal â therapi a gwelyau dan arweiniad nyrsys ar gyfer anghenion llai critigol ac adsefydlu. Bydd cymorth diagnostig (pelydr-x, uwchsain ac ati) yn parhau, yn ogystal â chlinigau cleifion allanol a chlinigau eraill.
  • Ein Hysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd fydd y prif safle ysbyty ar gyfer gofal brys a gofal wedi’i gynllunio yn ein rhanbarth (Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro). Bydd yn darparu gwasanaethau plant, oedolion ac iechyd meddwl arbenigol mewn modd mwy canolog. Bydd yn gweithredu fel ein Huned Trawma a’n prif Adran Achosion Brys.
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: