Y prif newidiadau i ysbytai fydd y canlynol:
- Bydd ysbytai Glangwili a Llwynhelyg yn cael eu haddasu i fod yn ysbytai cymunedol. Bydd y ddau yn darparu canolfannau gofal brys 24/7 dan arweiniad meddygon teulu. Bydd ganddynt gyfleusterau ar gyfer gweithdrefnau achosion dydd, yn ogystal â therapi a gwelyau dan arweiniad nyrsys ar gyfer anghenion llai critigol ac adsefydlu. Bydd cymorth diagnostig (pelydr-x, uwchsain ac ati) yn parhau, yn ogystal â chlinigau cleifion allanol a chlinigau eraill.
- Ein Hysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd fydd y prif safle ysbyty ar gyfer gofal brys a gofal wedi’i gynllunio yn ein rhanbarth (Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro). Bydd yn darparu gwasanaethau plant, oedolion ac iechyd meddwl arbenigol mewn modd mwy canolog. Bydd yn gweithredu fel ein Huned Trawma a’n prif Adran Achosion Brys.