Neidio i'r prif gynnwy

Teulu Jones - Gareth Jones

Gareth Jones sy’n 38 yn sefyll gyda’i ddwylo ar ei gluniau Mae Gareth yn 38 oed ac yn byw yn Nhalybont, Ceredigion. Ar ei daith feicio dydd Sadwrn gyda’r ‘Wheelers’, mae Gareth mewn gwrthdrawiad â char, ger Aberaeron. Mae meddygon o’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo  Meddygol Brys (EMRTS Cymru) yn cyrraedd y lleoliad.

Ar hyn o bryd byddent yn mynd â Gareth i Ysbyty Glangwili, sydd 31 milltir i ffwrdd, gan mai dyma’r uned drawma leol dros dro tra byddwn yn aros am Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd.

Yn y dyfodol, pe bai gennym Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio, byddai Gareth yn cael ei gludo’n syth i’r ysbyty hwn. Byddai’r daith i’r ddau opsiwn safle yn Hendy-gwyn tua 36 milltir o leoliad y ddamwain yn Aberaeron, neu 37 milltir i’r safle yn Sanclêr. Mae’r gwahaniaeth mewn amser teithio rhwng y tri safle yn ddibwys ac yn annhebygol o arwain at unrhyw effaith ar amseroldeb i gael mynediad at ofal i Gareth.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: