Mae’r tri safle posibl o fewn ardal ddaearyddol fach yn ne ardal Hywel Dda, yn Sir Gaerfyrddin ac yn agos at ffin Sir Benfro:
Hendy-gwyn ar Daf, Gerddi’r Ffynnon (safle 12 gynt) Mae’r safle hwn ychydig i’r gogledd-ddwyrain o ganol Hendy-gwyn ar Daf. Mae rhwng yr A40 i’r gogledd, cae rygbi Hendy-gwyn ar Daf i’r dwyrain a chartrefi Gerddi’r Ffynnon i’r de.
Hendy-gwyn ar Daf, Tŷ Newydd (safle C gynt) Mae’r safle hwn yn rhan o Fferm Tŷ Newydd. Mae’r safle i’r dwyrain o hen hufenfa Hendy-gwyn ar Daf. Mae canol y dref a ffordd yr A40 lai na milltir i’r gogledd o’r safle.
Sanclêr (safle 17 gynt) Mae’r safle hwn yn dir ar hen gaeau Bryncaerau, ger cyffordd yr A40 a’r A477 yn Sanclêr. Mae’r A4066 Ffordd Dinbych-y-pysgod i’r de, pentref Pwll Trap i’r gogledd, a’r A40 i’r gorllewin.
Hendy-gwyn ar Daf, Tŷ Newydd (safle C gynt) Mae’r safle hwn yn rhan o FfermTyˆ
Newydd. Mae’r safle i’r dwyrain o hen hufenfa Hendy-gwyn ar Daf. Mae canol y dref a ffordd yr A40 lai na milltir i’r gogledd o’r safle.