Neidio i'r prif gynnwy

Cymryd golwg fanylach

Oherwydd y tebygrwydd rhwng y safleoedd, canfu grwpiau o bobl a oedd yn eu hystyried o safbwyntiau penodol (gweler y bennod gynharach ar ‘Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn’) fod y gwahaniaethau rhyngddynt yn aml yn rhy fach i gael effaith ar argymhellion safleoedd:

  • Roedd grŵp yn edrych ar wybodaeth dechnegol am y safleoedd, eu nodweddion a’r hyn yr oedd ein cyhoedd yn ei feddwl oedd yn bethau pwysig i’w hystyried. Sgoriodd Gerddi’r Ffynnon, Hendy-gwyn ar Daf 373, sgoriodd Tŷ Newydd, Hendy-gwyn ar Daf 366 a sgoriodd Sanclêr 372.
  • Yn yr un modd, nid oedd y sgoriau a roddwyd gan arbenigwyr technegol ar gyfer y risgiau sy’n gysylltiedig â gwahanol safleoedd yn sylweddol wahanol, gyda sgôr o 145 ar gyfer Gerddi’r Ffynnon Hendy-gwyn ar Daf, 145 ar gyfer Sanclêr, a 144 ar gyfer Tŷ Newydd, Hendy-gwyn ar Daf.
  • Ychydig o wahaniaeth a ganfu’r grŵp gweithlu rhwng y safleoedd o ran recriwtio ac effeithiau ar gynnal gweithlu.
  • Canfu’r grŵp cyllid ac economaidd, tra bod gwahaniaethau mewn costau cyfalaf (a amlinellir yn y tabl ar dudalen 14), roedd llai na 2% o wahaniaeth yng nghostau amcangyfrifedig cyffredinol y datblygiad.

Trwy’r broses dewis tir ar gyfer ein Hysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd, fe wnaethom ymgysylltu â’n timau clinigol. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys proses i nodi pa wasanaethau clinigol a chymorth y gallai lleoliad penodol yr ysbyty newydd o fewn ardal o’r parth y cytunwyd arno rhwng ac yn cynnwys Arberth a Sanclêr (h.y. naill ai ymhellach i’r dwyrain, canol neu orllewin) effeithio ar eu hyfywedd ar gyfer darparu gwasanaethau. Arweiniodd yr ymarfer hwn, ynghyd ag ymrwymiad blaenorol gan ein Bwrdd Iechyd i archwilio ymhellach i effaith ysbyty newydd ar wasanaethau menywod a phlant, at ddau werthusiad clinigol, sef:

  • Gwasanaethau strôc
  • Gwasanaethau gofal pediatrig, obstetrig a newyddenedigol

Canfu’r grŵp arbenigol clinigol ar gyfer gwasanaethau strôc y byddai unrhyw un o’r ardaloedd yn y parth yn addas ar gyfer Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd oherwydd y ffocws ar sut mae cleifion yn cael eu trin y tu hwnt i’w derbyniad i ysbyty. 

Roedd y grŵp arbenigol ar gyfer obstetreg, gwasanaethau newyddenedigol a phediatreg o’r farn bod gwahaniaeth i’r gwasanaethau o ran lleoliad yr ysbyty o fewn gwahanol rannau o’r parth.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: