Neidio i'r prif gynnwy

Sut bydd hyn yn cyfrannu at lesiant cenedlaethau'r dyfodol

Mae ein huchelgais i gyflawni Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach, a chyflawni drwy ein Hachos Busnes Rhaglen, yn rhan o’n hymateb i gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Ym mhob cam, rydym yn ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau, i weithio’n well gyda phobl, cymunedau, a’i gilydd, ac i atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.

Un esiampl yw ein Cynllun Cyflawni Datgarboneiddio a fydd yn cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru i GIG Cymru gyfrannu at darged sero net ar gyfer y sector cyhoeddus cyfan erbyn 2030. Ein nod yw lleihau ein hôl troed carbon 34% erbyn 2030.

Bydd dyluniad yr Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd a chyfleusterau cymunedol eraill hefyd yn dilyn egwyddorion dylunio bioffilig. Mae’n golygu bod ein hadeiladau a’r ardaloedd cyfagos yn adlewyrchu ein hamgylchedd naturiol – nid yn unig yng ngerddi’r ysbyty newydd, ond o fewn y wardiau, swyddfeydd a choridorau. Gall manteision dylunio bioffilig gynnwys amgylchedd tawelach i staff, cleifion a’u teuluoedd, mwy o greadigrwydd, cynhyrchiant, a llai o straen, llai o amser adfer ar ôl llawdriniaeth a llai o ddefnydd o feddyginiaeth.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: