Neidio i'r prif gynnwy

Cydraddoldeb ac effeithiau iechyd

Bydd newid gwasanaethau iechyd a gofal yn effeithio ar bob un ohonom sy’n byw yn ardal Hywel Dda waeth beth fo’n hoedran, rhyw, anabledd (corfforol, iechyd meddwl ac anableddau dysgu), hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, neu feichiogrwydd a mamolaeth.

Rhaid inni sicrhau bod ein cynigion yn deg i bawb a chymryd gofal arbennig i ystyried pobl sy’n agored i niwed. Rydym eisoes wedi ymgysylltu â grwpiau sy’n cynrychioli pobl agored i niwed a byddwn yn parhau i wneud hynny i sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys drwy gydol ein hymgynghoriad.

Rydym wedi cynhyrchu’r hyn a elwir yn Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd ar gyfer ein Hachos Busnes Rhaglen gyfan, sy’n cynnwys darparu ein Hysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd.

Mae’r Asesiad yn cynnwys trosolwg o’r effeithiau cadarnhaol a negyddol posibl ar bobl, a sut y byddwn yn eu lliniaru ac yn mynd i’r afael â’n dyletswyddau cydraddoldeb. Defnyddir y ddogfen i helpu penderfynwyr wrth ystyried datblygiadau yn y dyfodol.

Bydd y ddogfen yn cael ei diweddaru’n barhaus wrth i ni ddysgu mwy ac mae ar gael yn llawn trwy ymweld â’n tudalennau gwe ymgynghoriad safle o dan Dogfennau Technegol (agor mewn dolen newydd). Os hoffech wybodaeth fanylach, cysylltwch â: inclusion.hdd@wales.nhs.uk

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: