Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n bwysig eich diweddaru chi, yn enwedig pan fyddwch chi wedi cymryd yr amser i rannu eich barn â ni.
Bydd yr adroddiad allbwn yn cael ei gyhoeddi, ei ystyried yn llawn, a’i drafod fel rhan o gyfarfod penodol y Bwrdd Iechyd a gynhelir tua diwedd haf 2023 mae’n debyg.
Ymunwch â’n cronfa ddata aelodaeth Siarad Iechyd/Talking Health drwy e-bostio Hyweldda.Engagement@wales.nhs.uk, ffonio 0300 303 8322 (pris galwad leol), neu ysgrifennu atom yn: Opinion Research Services, FREEPOST SS1018, PO Box 530, Swansea, SA1 1ZL os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf ar yr hyn sy’n digwydd ac ar benderfyniadau.