Os fyddwn yn gwneud dim, ni fyddwn yn gallu ymdrin â’r galw cynyddol am wasanaethau iechyd, na mynd i’r afael â’n problemau o ran cadw a recriwtio staff a gwneud ein gwasanaehau’n fwy sefydlog. Mae hyn yn debygol o arwain at y canlynol:
- amseroedd aros hirach mewn Adrannau Achosion Brys
- mwy o lawdriniaethau mewn ysbytai yn cael eu gohirio
- gwelyau ysbyty annigonol
- colli cyfleoedd i atal salwch neu osgoi dirywiad
- seilwaith a gallu technolegol yn gwaethygu
- mwy o broblemau o ran gallu recriwtio a chadw meddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cymwys priodol i ofalu amdanoch
- gwasanaethau bregus, sy’n golygu risg uwch o newidiadau neu doriadau i wasanaethau heb eu cynllunio gyda rhai gwasanaethau neu weithdrefnau meddygol yn dod i ben, a gallai olygu bod cleifion yn teithio ymhellach, hyd yn oed i fyrddau iechyd cyfagos.
Yn bwysicaf oll, byddai gwneud dim yn debygol o olygu’r canlynol:
- safonau diogelwch is
- effaith gwaeth ar iechyd
- cyfraddau goroesi is.
Nid ydym am weld hyn yn digwydd ac mae ein strategaeth yn ceisio newid ein gwasanaethau i ddiwallu anghenion cenedlaethau’r dyfodol.