Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiadau ymgynghori

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn gyfrifol am gynllunio gwasanaethau iechyd a gofal ar draws y rhanbarth. I wneud hyn rydym yn gweithio gydag ysbytai lleol ac eraill sy'n darparu gofal y GIG, yn ogystal ag awdurdodau lleol, partneriaid, elusennau, sefydliadau gwirfoddol a chymunedol.   

Mae’n bwysig ein bod yn cynnwys pobl leol yn ein gwaith – pobl o bob rhan o’n cymunedau amrywiol.  

Mae'r hyn rydych chi'n ei feddwl, eich profiadau o iechyd a gofal, a'ch syniadau am ddyfodol gwasanaethau iechyd a gofal yn hynod bwysig. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod y penderfyniadau a wnawn yn cael eu siapio gan y bobl yr ydym yn eu gwasanaethu.  

Yn ystod y cyfnod ymgynghori gallwch fynychu nifer o ddigwyddiadau galw heibio, naill ai yn bersonol neu ar-lein i rannu eich barn. Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws y tair sir. Ym mhob digwyddiad cewch gyfle i siarad ag uwch-staff o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghylch ble rydym yn ystyried adeiladu Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth dechnegol fanylach a mapiau yn y digwyddiadau lle gallwch chi ddweud eich dweud.

Dewch o hyd i ddigwyddiad sy’n lleol i chi.   

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: