Neidio i'r prif gynnwy

Sut cafodd yr adborth ei gasglu a'i ddadansoddi?

Gofynnwyd i staff ein bwrdd iechyd, sefydliadau partner, a’r gymuned ehangach rannu eu barn ar dri opsiwn safle posibl ar gyfer ysbyty gofal brys a gofal mewn argyfwng newydd arfaethedig; dau wedi'u lleoli ger Hendy-gwyn ar Daf ac un ger Sanclêr. Cynhaliwyd hyn am gyfnod o 12 wythnos rhwng 23 Chwefror a 19 Mai 2023 a chasglwyd ymatebion mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys dros y ffôn, gan ddefnyddio arolygon papur yn ogystal ag ar-lein, ac mewn digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. . Cynhaliwyd nifer o grwpiau ffocws gyda rhanddeiliaid hefyd. Sicrhawyd bod gwybodaeth ymgynghori ar gael mewn ieithoedd a fformatau amgen i alluogi cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan ac i gasglu ystod amrywiol o safbwyntiau yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Comisiynwyd Opinion Research Services (ORS) i gynghori, coladu a rheoli’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn annibynnol. Mae eu hadroddiad cynhwysfawr ar ganfyddiadau’r ymgynghoriad bellach ar gael i’w adolygu ar wefan y bwrdd iechyd: https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/canolbarth-a-gorllewin-iachach/safle-ysbyty-newydd/

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: