Neidio i'r prif gynnwy

Pam ydych chi'n meddwl y bydd ysbyty newydd yn datrys eich problemau?

Ni fydd ysbyty newydd yn unig yn ddigon i fynd i’r afael â’n heriau a chyflawni’r weledigaeth yr ydym yn dyheu amdani ar gyfer ein cymunedau. Dyna pam mae ein PBC yn cynnwys ffocws enfawr ar welliannau yng nghalon ein cymunedau, a chefnogaeth i'n strategaeth i symud ffocws i atal, ymyrraeth gynnar, a gofal mor agos at y cartref â phosibl.

Fodd bynnag, os caiff ei gefnogi, bydd ysbyty newydd yn darparu llawer o gyfleoedd i ni wella gofal ar gyfer ein poblogaeth. Mae Ysbytai Glangwili a Llwynhelyg ymhlith yr hynaf yng Nghymru ac nid ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer adeiladau gofal iechyd modern. Mae hyn yn effeithio ar brofiad cleifion ac ansawdd y gwasanaethau y gallwn eu darparu. Yn yr un modd, mae dyblygu gwasanaethau ar draws safleoedd yn golygu bod llawer yn fregus ac nad oes ganddynt y raddfa angenrheidiol i ddarparu gofal yn y ffordd y byddem yn ei ddymuno (sicrhau 7 diwrnod er enghraifft).

Rydym hefyd yn credu bod gwasanaethau ychwanegol y gallem eu cynnig o ysbyty newydd, o fewn ffiniau Hywel Dda, nad ydym yn gallu eu cynnig yn awr. Rydym yn awyddus i archwilio, ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, opsiynau ar gyfer darparu rhai gwasanaethau trydyddol, er enghraifft radiotherapi, gwasanaethau niwroleg, a gwasanaethau cathetreiddio cardiaidd. Mae pob un o'r gwasanaethau hyn yn cael eu hadolygu'n rhanbarthol trwy bartneriaeth ARCH.

Y profiad yr ydym wedi’i weld mewn mannau eraill lle bu ysbyty newydd yw bod staff eisiau mynd i weithio yno gan fod ganddynt y cyfleusterau a’r technolegau diweddaraf. Byddai hefyd yn caniatáu inni gynnig rotâu mwy deniadol i staff meddygol a hyfforddeion. Rydym yn bwriadu cael cyfleusterau addysg iechyd, academaidd ac ymchwil ac arloesi ar y safle, gan gynnwys Sefydliad Gwyddorau Bywyd. Nid mater o feddygon yn unig fohono; rydym wedi cael trafodaethau ac rydym am weithio’n agos gyda’r gwyddorau iechyd i hyfforddi a denu nyrsys a therapyddion hefyd.

Drwy gael gweithlu sefydlog, bydd gennym ni uwch arbenigwyr ar gael wrth y drws ffrynt fel bod cleifion yn gallu cael gafael arnynt yn gyflym, yn ogystal â’r holl wasanaethau cymorth sydd eu hangen. Byddwn hefyd yn lleihau ein dibyniaeth ar staff dros dro, sy'n gostus ac a all arwain at ddarparu gwasanaethau llai diogel.

Yn olaf, drwy wahanu gofal wedi’i gynllunio a gofal brys, fel y bwriadwn ei wneud yn yr ysbyty newydd, byddwn yn osgoi’r risg y bydd gweithgarwch brys yn effeithio’n negyddol ar ofal wedi’i gynllunio, drwy lawdriniaethau wedi’u canslo.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: