Neidio i'r prif gynnwy

Beth sydd o'i le ar ysbytai presennol Glangwili a Llwynhelyg, oni allwch chi fuddsoddi yn y ddau ysbyty hynny?

Ni fyddai hyn yn mynd i’r afael â’r problemau sydd gennym o ran cynnal ein rota feddygol, na rhai o’r problemau sydd gennym gyda’r adeiladau, yn enwedig yn Ysbyty Glangwili.

Er ein bod wedi uwchraddio ein hysbytai presennol i'w cadw'n ddiogel ac yn weithredol, nid ydynt yn mynd i'r afael â'r ail-ddylunio gwasanaethau sylfaenol sy'n angenrheidiol er mwyn i ni fodloni safonau gofal iechyd modern yn y dyfodol. Er enghraifft, mae ein theatrau yn rhy fach, nid oes gennym ddigon o ystafelloedd sengl, na chyfleusterau sy’n cefnogi adsefydlu, megis mewn wardiau.

Yn ein Achos Busnes Rhaglen mae’r opsiwn “gwneud y lleiafswm” yn amcangyfrif y gallem wario hyd at £655m ar ein hadeiladau ac yn dal i fethu â darparu’r safonau sydd eu hangen i ddarparu gofal iechyd modern na’r hyblygrwydd sydd ei angen ar gyfer y dyfodol.

I gael manylion ar ein heriau o ran rotâu meddygol, gweler y cwestiwn Pam fod angen ysbyty newydd arnom, pam na allwch chi uwchraddio'r rhai sydd gennych chi?

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: