Neidio i'r prif gynnwy

Beth fydd yn cael ei gynnwys ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu o'r Ganolfan Gofal Brys a Gofal wedi'i Gynllunio?

Byddai'r Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi'i Gynllunio yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu arbenigol 24/7. Byddai hyn yn cynnwys gwelyau i oedolion, oedolion hŷn, plant a phobl ifanc, anableddau dysgu, gofal dwys seiciatrig, gwelyau diogelwch isel i ddynion, a chyfleusterau asesu a dydd, yn ogystal ag ystafelloedd Adran 136 pwrpasol a phriodol.

Dylid darparu cyfleusterau mewn uned bwrpasol, yn ddelfrydol gyda chysylltedd i brif safle'r ysbyty. Bydd yr uned hon yn rhan annatod o'r gwasanaeth iechyd meddwl cyffredinol a gynigir, mewnbwn arbenigol yn ychwanegol at yr hyn a ddarperir o fewn cyfleusterau cymunedol.

Byddai Ysbyty Bronglais yn parhau i gael gwelyau iechyd meddwl oedolion hŷn fel y mae ar hyn o bryd.

DS Ar gyfer cwestiynau ar ddewis safle a phrynu tir, gweler y bennod Proses.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: