Neidio i'r prif gynnwy

A yw'r materion RAAC yn Ysbyty Llwynhelyg yn newid unrhyw beth gyda'r ysbyty newydd?

Mae Llwynhelyg yn rhan o'n strategaeth tymor hwy fel yr amlinellwyd yn Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach. Ein gweledigaeth yw y bydd Llwynhelyg yn cael ei ailwampio ac yn parhau i ddarparu ystod o wasanaethau i'n cymuned. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol bod sawl man yn ysbyty Llwynhelyg yn hen ac angen cryn dipyn o waith - mae darganfod RAAC yn dystiolaeth bellach o hyn.

Bydd datblygiad yr Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd arfaethedig yn ne ardal Hywel Dda yn cymryd nifer o flynyddoedd i’w gwblhau. Rydym yn gwneud cynnydd o ran dewis leoliad ein hysbyty newydd, ond ni fydd yn barod am beth amser. Yn y cyfamser, rydym yn parhau i weld cynnydd yn y galw ar ein hysbytai ac nid oes bwriad i gau Ysbyty Llwynhelyg.

Dilynwch ni ar:
Rhannwch: