Un o’r heriau allweddol sy’n ein hwynebu yw breuder rhai o’n gwasanaethau. Mae hyn yn arbennig o wir o ran cynnal cymaint o rotâu meddygol, ac mae hyn yn golygu na allwn barhau i redeg yr holl wasanaethau acíwt yn ysbytai Glangwili a Llwynhelyg.
Rydym wedi gorfod ymateb i anghenion a disgwyliadau newidiol ar ein meddygon yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf ac mae ein rotâu meddygon ar alwad wedi gorfod newid. Er mwyn gwella cyfleoedd hyfforddi a pherfformiad, disgwylir i feddygon dan hyfforddiant ac ar lefel ymgynghorol fod ar alwad yn llai aml a gweithio llai o oriau nag yn y gorffennol. Ar yr un pryd, mae safonau a disgwyliadau gofal wedi cynyddu, ac mae angen mynediad amserol at uwch benderfynwyr i asesu cleifion yn ein hysbytai trwy gydol yr wythnos a'r penwythnos. Gall sefydliadau iechyd eraill yng Nghymru a ledled y DU gynnig rotâu ar alwad llai aml a mwy deniadol.
Mae hyn oll wedi arwain at her i'r Bwrdd Iechyd o ran darparu digon o feddygon yn ein holl ysbytai i barhau i ddarparu gwasanaethau. Mae hyn yn golygu ein bod yn dibynnu gormod ar staff dros dro i ddarparu gwasanaethau. Nid dyma'r ffordd fwyaf diogel o ddarparu gofal. Mae hefyd yn ddrud ac er nad yw arian yn ffactor hollbwysig o ran pam mae angen inni newid, mae'n chwarae rhan sylweddol yn ein gallu i ddarparu gofal iechyd gwell a chefnogi gwasanaethau gofal cymunedol a sylfaenol yn well.
Mantais arall o alinio rhai o’n staff arbenigol yw rhoi’r cyfle iddynt weld digon o gleifion i gynnal ac adeiladu eu harbenigedd mewn rhai meysydd ac i weithio mewn rhwydweithiau. Bydd hyn yn dod â chyfleoedd i ddarparu ystod ehangach o wasanaethau o fewn Hywel Dda nag sy'n bosibl ar hyn o bryd. Trwy ddarparu a chefnogi arbenigeddau gallwn ddarparu gwasanaethau mwy diogel a gwella canlyniadau i gleifion.
Wrth gwrs, nid staff meddygol yn unig y mae gennym heriau i’w recriwtio, mae hyn hefyd yn wir mewn nyrsio a phroffesiynau eraill. Fel mater o drefn, gallwn gael cymaint â 950 o swyddi gwag cyfwerth ag amser llawn (sef tua 10% o’n staff). Mae hyn yn gwneud rhai o'n gwasanaethau yn fregus iawn, yn anodd eu cynnal ac nid o'r ansawdd uchaf yr ydym am ei ddarparu.
Bydd ysbytai Bronglais, Glangwili, Tywysog Philip a Llwynhelyg yn parhau i ddarparu ystod o wasanaethau pwysig i’r boblogaeth leol, ochr yn ochr â’r Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd yn ne ein hardal. Mae hyn yn golygu y byddai gofal pobl yn dal i gael ei ddarparu’n lleol yn bennaf.