Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r cynllun ar gyfer Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli?

Os caiff ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, bydd y rhaglen yn cynnwys adnewyddu Ysbyty Tywysog Philip erbyn gaeaf 2032.

Bydd yr ysbyty yn parhau i fod yn ysbyty cyffredinol lleol, yn cefnogi derbyniadau meddygol acíwt ac yn gweithredu fel canolbwynt sefydlogi a throsglwyddo ar gyfer rhai cyflyrau arbenigol, fel y mae ar hyn o bryd. Bydd yn parhau i gael:

  • Canolfan gofal brys/uned mân anafiadau dan arweiniad meddygon teulu 24/7
  • Meddygaeth acíwt 24/7, gan gynnwys derbyniadau a gwelyau dros nos dan arweiniad ymgynghorwyr a gallu gofal dibyniaeth uchel
  • Diagnosteg 24/7 (profion, sganiau ac ati)
  • Gofal critigol
  • Llawdriniaeth ddydd ac endosgopi
  • Clinigau cleifion allanol a chlinigau cerdded i mewn arbenigol
  • Cemotherapi
  • Cyfleusterau i gynnig genedigaethau dan arweiniad bydwragedd
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: