Os caiff ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, bydd y rhaglen yn cynnwys adnewyddu Ysbyty Bronglais erbyn gwanwyn 2031.
Bydd yr ysbyty yn parhau i fod yn ysbyty cyffredinol dosbarth ac yn adeiladu ar ei enw da fel darparwr gwledig rhagorol o ofal aciwt a gofal wedi'i gynllunio. Bydd yn parhau i ddarparu’r ystod bresennol o wasanaethau gofal brys, argyfwng a gofal wedi’i gynllunio gydag achosion mwy arbenigol yn cael eu trosglwyddo i’r prif Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio (yn ogystal â safleoedd rhanbarthol eraill ar gyfer gofal critigol), fel sy’n digwydd yn awr.
O ystyried y cyfyngiadau safle, nid oes opsiwn adeiladu newydd ar gyfer yr ysbyty.
Bydd yn parhau i gael:
Bydd gan Ysbyty Bronglais o leiaf yr un ystod o wasanaethau clinigol ag ar hyn o bryd, a bydd y Bwrdd Iechyd Prifysgol yn edrych i ehangu gwasanaethau lle bo modd i sicrhau cynaliadwyedd clinigol hirdymor, gan gefnogi Strategaeth Bronglais.
Rydym yn cydnabod bod gan Bronglais safle unigryw yng Nghymru, sy’n golygu mai rhan sylweddol o’i rôl yw darparu gofal i breswylwyr o ardaloedd Byrddau Iechyd eraill.