Er mwyn arfarnu’r holl opsiynau’n briodol, fel sy’n ofynnol gan broses achos busnes Llywodraeth Cymru, byddai’r cam nesaf yn edrych yn fanylach ar sut yr ydym yn ail-bwrpasu ysbytai Glangwili a Llwynhelyg. Byddai hyn yn cynnwys opsiynau i ddefnyddio'r adeiladau presennol ond hefyd y potensial i ailadeiladu.