Neidio i'r prif gynnwy

Beth fyddai'n cael ei ddarparu o ganolfan gofal brys dan arweiniad meddygon teulu yn Ysbytai Llwynhelyg / Glangwili?

Mae angen inni wneud rhagor o waith gyda’n staff clinigol a staff eraill, partneriaid, a’r cyhoedd i ymgysylltu ar fanylion ein llwybrau gwasanaeth. Fodd bynnag, yn nodweddiadol, byddai canolfan gofal brys a arweinir gan feddygon teulu yn darparu gofal ar gyfer anafiadau a salwch, megis:

  • Ysigiadau a straen
  • Heintiau clwyfau
  • Esgyrn wedi torri (os nad ydynt wedi’u dadffurfio)
  • Mân losgiadau a sgaldiadau
  • Anafiadau i'r ysgwydd, gefn a’r frest
  • Mân anafiadau i'r pen
  • Brathiadau pryfed ac anifeiliaid
  • Mân anafiadau i'r llygaid
  • Mân afiechydon
Dilynwch ni ar:
Rhannwch: